agw. Eseia 53:5-12
bgw. Salm 16:8-10; Mathew 12:40; Actau 2:24-32
cgw. Luc 24:34; Mathew 28:16,17; Marc 16:14; Luc 24:36; Ioan 20:19
dgw. Actau 9:3-6
egw. Actau 8:3
fgw. Salm 110:1
h cyfeiriad at Eseia 22:13; 56:12
m Hosea 13:14 (LXX)

1 Corinthians 15

Atgyfodiad y Meseia

1Nawr, frodyr a chwiorydd, dw i eisiau eich atgoffa chi'n llawn o'r newyddion da wnes i ei gyhoeddi i chi. Dyma'r newyddion da wnaethoch chi ei gredu, ac sy'n sylfaen i'ch ffydd chi. 2Dyma'r newyddion da sy'n eich achub chi, os wnewch chi ddal gafael yn beth gafodd ei gyhoeddi i chi. Dw i'n cymryd eich bod chi wedi credu go iawn, dim ‛credu‛ heb wir feddwl beth roeddech chi'n ei wneud.

3Y prif beth wnes i ei rannu gyda chi oedd beth dderbyniais i, sef: bod y Meseia wedi marw dros ein pechodau ni, fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud. a 4Yna ei fod wedi ei gladdu, a'i fod wedi ei godi yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn, fel mae'r ysgrifau'n dweud. b 5Wedyn bod Pedr wedi ei weld, a'r deuddeg disgybl. c 6Ar ôl hynny, cafodd ei weld ar yr un pryd gan dros bum cant o'n brodyr a'n chwiorydd ni sy'n credu! Mae'r rhan fwya ohonyn nhw'n dal yn fyw heddiw, er bod rhai sydd bellach wedi marw. 7Yna gwelodd Iago fe, a'i gynrychiolwyr eraill i gyd. 8Ac yn olaf, ces i ei weld d – ie, fi, yr ‛erthyl‛ o apostol.

9Fi ydy'r un lleia pwysig o'r holl rai ddewisodd y Meseia i'w gynrychioli. Dw i ddim hyd yn oed yn haeddu'r enw ‛apostol‛, am fy mod i wedi erlid eglwys Dduw. e 10Ond Duw sydd wedi ngwneud i beth ydw i, trwy dywallt ei haelioni arna i. A dydy ei rodd e ddim wedi bod yn aneffeithiol. Dw i wedi gweithio'n galetach na'r lleill i gyd – nid fy mod i fy hun wedi gwneud dim go iawn, rhodd Duw oedd ar waith ynof fi. 11Beth bynnag, does dim gwahaniaeth os mai fi neu nhw sy'n gwneud y cyhoeddi – dyma'r neges sy'n cael ei chyhoeddi a dyma dych chi wedi ei gredu.

Y rhai sydd wedi marw yn codi

12Os ydyn ni'n cyhoeddi fod y Meseia wedi ei godi yn ôl yn fyw, sut mae rhai pobl yn gallu dweud fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi? 13Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw, dydy'r Meseia ddim wedi atgyfodi chwaith. 14Ac os wnaeth y Meseia ddim codi, dydy'r newyddion da sy'n cael ei gyhoeddi yn ddim byd ond geiriau gwag – mae beth dych chi'n ei gredu yn gwbl ddiystyr! 15Bydd hi'n dod yn amlwg ein bod ni sy'n ei gynrychioli wedi bod yn dweud celwydd am Dduw! Roedden ni'n tystio bod Duw wedi codi'r Meseia yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, ac yntau heb wneud hynny os ydy'n wir fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi. 16Os ydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i gael eu codi yn ôl yn fyw, wnaeth y Meseia ddim dod yn ôl yn fyw chwaith. 17Ac os na chododd y Meseia, mae beth dych chi'n ei gredu'n wastraff amser – dych chi'n dal yn gaeth i'ch pechodau. 18Ac os felly mae'r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn gwbl golledig hefyd. 19Os mai dim ond ar gyfer y bywyd hwn dŷn ni'n gobeithio yn y Meseia, dŷn ni i'n pitïo'n fwy na neb!

20Ond, y gwir ydy bod y Meseia wedi ei godi yn ôl yn fyw! Mae e fel y ffrwyth cyntaf i ymddangos adeg y cynhaeaf – fe ydy'r cyntaf o lawer sy'n mynd i gael eu codi. 21Am fod marwolaeth wedi dod drwy berson dynol, daeth bywyd ar ôl marwolaeth drwy berson dynol hefyd. 22Mae pawb yn marw am eu bod nhw'n perthyn i Adda, ond mae pawb sy'n perthyn i'r Meseia yn cael bywyd newydd. 23Dyma'r drefn: y Meseia ydy ffrwyth cynta'r cynhaeaf; wedyn, pan fydd e'n dod yn ôl, bydd pawb sy'n perthyn iddo yn ei ddilyn. 24Wedyn bydd y diwedd wedi dod – bydd y Meseia'n trosglwyddo'r deyrnas i Dduw y Tad ar ôl dinistrio pob gormeswr, awdurdod a grym drygionus. 25Rhaid i'r Meseia deyrnasu nes bydd ei holl elynion wedi cael eu sathru dan draed. f 26A'r gelyn olaf i gael ei ddinistrio fydd marwolaeth. 27Ydy, “Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod” g – ond wrth gwrs mae'n amlwg nad ydy ‛popeth‛ yn cynnwys Duw ei hun, sydd wedi rhoi popeth dan awdurdod y Meseia yn y lle cyntaf! 28Ar ôl gwneud hyn, bydd y Mab yn ei roi ei hun i'r Un wnaeth osod popeth dan ei awdurdod, a bydd Duw yn llenwi popeth.

29Os ydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i gael eu codi yn ôl yn fyw, beth ydy'r pwynt o bobl yn cymryd eu bedyddio er mwyn y rhai sydd wedi marw? Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw, mae'n ddiystyr. 30A beth amdanon ni! Pam dŷn ni'n fodlon peryglu'n bywydau drwy'r adeg? 31Dw i'n wynebu marwolaeth bob dydd. Ydy, mae'n wir ffrindiau – mor sicr â'r ffaith fy mod i'n falch o beth mae'r Meseia Iesu ein Harglwydd ni wedi ei wneud ynoch chi. 32Pa fantais oedd i mi ymladd gyda'r anifeiliaid gwyllt yn Effesus, os oeddwn i'n gwneud hynny o gymhellion dynol yn unig, ac os nad oes bywyd ar ôl marwolaeth?

“Gadewch i ni gael parti ac yfed;
falle byddwn ni'n marw fory!” h

33Peidiwch cymryd eich camarwain, achos “mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.”
15:33: dyfyniad o Thais 218 gan y bardd Menander (tua 320 CC).
34Mae'n bryd i chi gallio, a stopio pechu. Dych chi'n gweld, dydy rhai pobl sy'n eich plith chi'n gwybod dim am Dduw! Dw i'n dweud hyn i godi cywilydd arnoch chi.

Corff yr Atgyfodiad

35Ond wedyn dw i'n clywed rhywun yn gofyn, “Sut mae'r rhai sydd wedi marw yn mynd i godi? Sut fath o gorff fydd ganddyn nhw?” 36Am gwestiwn dwl! Dydy planhigyn byw ddim yn tyfu heb i beth sy'n cael ei hau yn y ddaear farw. 37A dim yr hyn sy'n tyfu dych chi'n ei blannu, ond hedyn bach noeth – gwenith falle, neu rywbeth arall. 38Ond mae Duw yn rhoi ‛corff‛ newydd iddo, fel mae'n dewis. Mae gwahanol blanhigion yn tyfu o wahanol hadau. 39A dydy corff pob creadur byw ddim yr un fath chwaith: mae gan bobl un math o gorff, ac anifeiliaid fath arall, mae adar yn wahanol eto, a physgod yn wahanol. 40Ac mae yna hefyd gyrff nefol a chyrff daearol. Mae harddwch y gwahanol gyrff nefol yn amrywio, ac mae harddwch y gwahanol gyrff daearol yn amrywio. 41Mae gwahaniaeth rhwng disgleirdeb yr haul a disgleirdeb y lleuad, ac mae'r sêr yn wahanol eto; yn wir mae gwahaniaeth rhwng un seren a'r llall.

42Dyna sut bydd hi pan fydd y rhai sydd wedi marw'n atgyfodi. Mae'r corff sy'n cael ei roi yn y ddaear yn darfod, ond bydd yn codi yn gorff fydd byth yn darfod. 43Pan mae'n cael ei osod yn y ddaear mae'n druenus, ond pan fydd yn codi bydd yn ogoneddus! Mae'n cael ei ‛hau‛ mewn gwendid, ond bydd yn codi mewn grym! 44Corff dynol cyffredin sy'n cael ei ‛hau‛, ond corff ysbrydol fydd yn codi. Yn union fel mae corff dynol naturiol yn bod, mae yna hefyd gorff ysbrydol. 45Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Daeth y dyn cyntaf, Adda, yn berson byw” j ond mae'r Adda olaf, sef y Meseia, yn ysbryd sy'n rhoi bywyd i eraill. 46Dim yr un ysbrydol ddaeth gyntaf, ond yr un naturiol, a'r un ysbrydol yn ei ddilyn. 47Cafodd Adda, y dyn cyntaf, ei wneud o bridd y ddaear, k ond daeth y Meseia, yr ail ddyn, o'r nefoedd. 48Mae gan pob un ohonon ni gorff daearol fel Adda, ond bydd gynnon ni sy'n perthyn i'r nefoedd gorff nefol fel y Meseia. 49Yn union fel dŷn ni wedi bod yn debyg i'r dyn o'r ddaear, byddwn ni'n debyg i'r dyn o'r nefoedd.

50Dyma dw i'n ei ddweud, frodyr a chwiorydd annwyl – all cig a gwaed ddim perthyn i deyrnas Dduw. All y corff sy'n darfod ddim bodoli yn y deyrnas sydd byth yn mynd i ddarfod. 51Gwrandwch – dw i'n rhannu rhywbeth sy'n ddirgelwch gyda chi: Fydd pawb ddim yn marw. Pan fydd yr utgorn olaf yn cael ei ganu byddwn ni i gyd yn cael ein newid – 52a hynny'n sydyn, mewn chwinciad. Bydd yr utgorn yn seinio, y rhai sydd wedi marw yn codi mewn cyrff fydd byth yn darfod, a ninnau sy'n fyw yn cael ein trawsffurfio. 53Rhaid i ni, sydd â chorff sy'n mynd i bydru, wisgo corff fydd byth yn pydru. Byddwn ni sy'n feidrol yn cael gwisgo anfarwoldeb! 54Pan fydd hynny'n digwydd, bydd beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn dod yn wir:

“Mae marwolaeth wedi ei lyncu yn y fuddugoliaeth.” l
55“O farwolaeth! Ble mae dy fuddugoliaeth di?
O farwolaeth! Ble mae dy bigiad marwol di?” m

56Pechod ydy'r pigiad gwenwynig sy'n arwain i farwolaeth, ac mae grym pechod yn dod o'r Gyfraith. 57Ond diolch i Dduw, mae ein Harglwydd Iesu Grist wedi rhannu ei fuddugoliaeth gyda ni!

58Felly safwch yn gadarn, frodyr a chwiorydd. Peidiwch gadael i ddim byd eich ysgwyd chi. Rhowch eich hunain yn llwyr i waith yr Arglwydd. Dych chi'n gwybod fod unrhyw beth wnewch chi i'r Arglwydd ddim yn wastraff amser.

Copyright information for CYM